Lleoliad y cyfarfod:
Zoom
Dyddiad y
cyfarfod:
Dydd Mawrth, 9
Mawrth 2021
Amser y
cyfarfod: 13.30
------
Cynhelir y cyfarfod hwn drwy gynhadledd fideo.
Ar ôl ymgynghori â'r Pwyllgor Busnes, mae'r Llywydd wedi penderfynu y bydd Aelodau, yn unol â Rheol Sefydlog 34.14A-D, yn gallu pleidleisio o unrhyw leoliad drwy ddulliau electronig.
Mae'r Llywydd hefyd yn hysbysu, yn unol â Rheol Sefydlog 34.15, fod y cyhoedd wedi eu gwahardd rhag bod yn bresennol yn y Cyfarfod Llawn hwn, fel sy'n ofynnol er mwyn diogelu iechyd y cyhoedd. Bydd y cyfarfod yn parhau i gael ei ddarlledu'n fyw a bydd cofnod o'r trafodion yn cael ei gyhoeddi yn y ffordd arferol.
1 Cwestiynau i'r Prif Weinidog
(60 munud)
Bydd y Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 2.
Bydd y Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip yn ateb cwestiynau am 15 munud olaf y sesiwn hon ar faterion yn ymwneud â'i chyfrifoldebau.
2 Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
(15 munud)
Gweld y Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
3 Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Y wybodaeth ddiweddaraf am Frechiadau COVID-19
(30 munud)
4 Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 4) 2021
(15 munud)
NDM7614 Rebecca Evans (Gwyr)
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:
1. Yn cymeradwyo Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 4) 2021 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 26 Chwefror 2021.
Dogfennau Ategol
Adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad
Cynnig o dan Reol Sefydlog 12.24 i gynnal dadl ar eitemau 5-8 gyda'i gilydd ond gyda phleidleisiau ar wahân - Gohiriwyd tan 16 Mawrth 2021
(0 munud)
5 Rheoliadau Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 (Diwygio Targed Allyriadau 2050) 2021
Ni chyflwynwyd cynnig.
6 Rheoliadau Newid yn yr Hinsawdd (Targedau Allyriadau Interim) (Cymru) (Diwygio) 2021
Ni chyflwynwyd cynnig.
7 Rheoliadau Newid yn yr Hinsawdd (Cyllidebau Carbon) (Cymru) (Diwygio) 2021
Ni chyflwynwyd cynnig.
8 Rheoliadau Newid yn yr Hinsawdd (Terfyn Credyd Cyfrif Allyriadau Net Cymru) (Cymru) 2021
Ni chyflwynwyd cynnig.
9 Rheoliadau Deddf Cydraddoldeb 2010 (Awdurdodau sy’n ddarostyngedig i ddyletswydd ynghylch Anghydraddoldebau Economaidd-gymdeithasol) (Cymru) 2021
(15 munud)
NDM7616 Rebecca Evans (Gwyr)
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:
1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Deddf Cydraddoldeb 2010 (Awdurdodau sy’n ddarostyngedig i ddyletswydd ynghylch Anghydraddoldebau Economaidd-gymdeithasol) (Cymru) 2021 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 9 Chwefror 2021.
Dogfennau Ategol
Adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad
10 Rheoliadau Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (Diwygiadau Canlyniadol) 2021
(15 munud)
NDM7615 Rebecca Evans (Gwyr)
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:
1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (Diwygiadau Canlyniadol) 2021 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 9 Chwefror 2021.
Dogfennau Ategol
Adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad
11 Dadl: Trydedd Gyllideb Atodol 2020-21
(30 munud)
NDM7622 Rebecca Evans (Gwyr)
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 20.30:
1. Yn cymeradwyo'r Drydedd Gyllideb Atodol ar gyfer y flwyddyn ariannol 2020-21 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ddydd Mawrth, 2 Mawrth 2021.
2. Yn nodi bod y categori adnoddau cronnus ar gyfer Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru o dan Ran 2 o Atodlen 4 i Gynnig y Gyllideb Atodol ar dudalen 22 wedi'i ddiwygio i gynnwys 'ad-dalu arian pensiwn dros ben’ fel yr adlewyrchir yn y Memorandwm Esboniadol a gyflwynwyd gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru i'r Pwyllgor Cyllid i'w ystyried yn ei gyfarfod ar 15 Ionawr 2021.
3. Yn nodi ymhellach yr addasiadau cyfatebol yn Atodlen 6 ar dudalennau 27 a 28 i gysoni'n gywir yr adnoddau y gofynnir amdanynt drwy leihau DEL Adnoddau Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru £974,000, cynyddu’r AME Adnoddau £974,000 a chynyddu'r Gronfa Adnoddau DEL heb ei Dyrannu £974,000.
Troednodyn:
Yn unol â'r darpariaethau perthnasol yn Neddf Llywodraeth Cymru 2006 a Rheol Sefydlog 20, mae'r Gyllideb Atodol yn cynnwys yr wybodaeth ganlynol:
(i) y datganiad ysgrifenedig sy'n ofynnol o dan adran 125(3) o Ddeddf Llywodraeth Cymru;
(ii) yr adnoddau y cytunwyd arnynt gan y Trysorlys ar gyfer cyllideb bloc Cymru yn y flwyddyn ariannol y mae'r cynnig yn ymwneud â hi;
(iii) cysoniad rhwng yr adnoddau a ddyrannwyd ar gyfer cyllideb bloc Cymru gan y Trysorlys a'r adnoddau yr awdurdodir eu defnyddio yn y cynnig;
(iv) cysoniad rhwng y symiau amcangyfrifol sydd i'w talu i Gronfa Gyfunol Cymru gan yr Ysgrifennydd Gwladol a'r symiau yr awdurdodir eu talu o'r Gronfa yn y cynnig;
(v) cysoniad rhwng yr adnoddau i'w hawdurdodi o dan adran 125(1)(a) a (b) o'r Ddeddf a'r symiau yr awdurdodir eu talu o Gronfa Gyfunol Cymru o dan adran 125(1)(c); a
(vi) manylion am unrhyw newidiadau i’r wybodaeth a ddarparwyd yn unol â Rheolau Sefydlog 20.7 – 20.7B ar gyfer y gyllideb ddrafft, fel y nodwyd yn y protocol y cytunwyd arno o dan Reol Sefydlog 20.1A.
Mae'r wybodaeth ychwanegol isod wedi'i darparu i'r Aelodau:
- nodyn yn egluro'r prif wahaniaethau rhwng y cynllun hwn a'r rhai blaenorol.
Dogfennau Ategol
12 Dadl: Cyfraddau Treth Incwm Cymru 2021-22
(15 munud)
NDM7611 Rebecca Evans (Gwyr)
Cynnig bod y Senedd, yn unol ag adran 116D o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, yn cytuno ar y penderfyniad ynghylch cyfraddau Cymru ar gyfer cyfraddau treth incwm Cymru 2021-22 fel a ganlyn:
a) y gyfradd Gymreig a gynigir ar gyfer cyfradd sylfaenol y dreth incwm yw 10c;
b) y gyfradd Gymreig a gynigir ar gyfer cyfradd uwch y dreth incwm yw 10c; ac
c) y gyfradd Gymreig a gynigir ar gyfer cyfradd ychwanegol y dreth incwm yw 10c.
13 Dadl: Cyllideb Derfynol 2021-22
(60 munud)
NDM7613 Rebecca Evans (Gwyr)
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 20.25, yn cymeradwyo'r Gyllideb Flynyddol ar gyfer y flwyddyn ariannol 2021-22 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 2 Mawrth 2021.
14 Dadl: Setliad Llywodraeth Leol 2021-22
(60 munud)
NDM7617 Rebecca Evans (Gwyr)
Cynnig bod y Senedd, yn unol ag Adran 84H o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988, yn cymeradwyo Adroddiad Cyllid Llywodraeth Leol (Rhif 1) 2021-22 (Setliad Terfynol – Cynghorau) a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 2 Mawrth 2021.
15 Dadl: Setliad yr Heddlu 2021-22
(30 munud)
NDM7612 Rebecca Evans (Gwyr)
Cynnig bod y Senedd, yn unol ag Adran 84H o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988, yn cymeradwyo Adroddiad Cyllid Llywodraeth Leol (Rhif 2) 2021-2022 (Setliad Terfynol – Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu) a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 4 Chwefror 2021.
16 Dadl: Cyfnod 4 y Bil Cwricwlwm ac Asesu (Cymru)
(15 munud)
NDM7627 Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed)
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 26.47:
Yn cymeradwyo Bil Cwricwlwm ac Asesu (Cymru).
Bil Cwricwlwm ac Asesu (Cymru), fel y'i diwygiwyd ar ôl Cyfnod 3
17 Cyfnod pleidleisio
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Senedd am 13.30, Dydd Mercher, 10 Mawrth 2021